Croeso i TOWIP! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cystadleuaeth Cyflwyno Erthygl

Postiwyd gan TOWIP Editor o Powys - Cyhoeddwyd ar 16/07/2012 am 09:42
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Celfyddyd, Hinsawdd, Comedi, Ysgrifennu Creadigol, Diwylliant, Dawns, Addysg, Amgylchedd, Ffasiwn, Gwyl, Bwyd a Diod, Iechyd, Hanes, Ffilmiau, Cerddoriaeth, Pobl, Gweithgareddau Gwyliau Ysgol, Llwyfan, Chwaraeon a Hamdden, Technoleg, Materion Cyfoes, Teithio, Gwaith a Hyfforddiant, Gwirfoddoli, Yn Gymraeg, Cyffuriau, Gyffuriau

  • Competition

 Bob mis, bydd TOWIP yn rhoi'r cyfle i bobl ifanc ennill tocynnau 'Love to Shop' gwerth £25.

 Mae cystadlu yn hawdd: bydd y chwe erthygl gyda'r mwyaf o sylwadau yn cymryd rhan mewn pleidlais bob mis fel y gall pawb gael cyfle i bleidleisio dros eu hoff erthygl. Bydd yr erthygl gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau erbyn y dyddiad cau yn ennill y tocyn £25.

 Gall yr erthyglau fod am unrhyw beth, yn amodol ar y broses gymedroli, a thrwy unrhyw gyfrwng a dderbynnir e.e. fideo, ysgrifennu creadigol, rhaglen ddogfen a stori luniau. Bydd yr erthygl yn cael ei dangos ym

 mha bynnag iaith y byddwch yn ei chyflwyno. Y mis hwn, mae'r erthyglau wedi'u cymryd o'r rheini a dderbyniwyd ym mis Mehefin. Dechreuwch ysgrifennu ar gyfer cystadleuaeth y mis nesaf lle bydd yr erthyglau'n cael eu dewis o'r rheini a gyflwynwyd cyn 20 Awst 2012.

 Bydd y bleidlais ar gyfer Mehefin yn cau am 9am ar 20 Awst, a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi am 4pm ar yr un dydd.

Felly cofrestrwch a dechreuwch bleidleisio!

   Enillydd mis Ebrill a Mai oedd "I'm Still Here" gan RosiieFlamingo

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50