Gwybodaeth » Addysg » Anghenion Addysgol Arbennig » Cynllunio Pontio
- Pan fydd gan blentyn ddatganiad anghenion arbennig, mae’n rhaid ei adolygu bob blwyddyn.
- Mae’n rhaid i’r Adolygiad Blynyddol ym Mlwyddyn 9, a’r adolygiadau blynyddol sy’n dilyn hyd nes i’r person ifanc adael yr ysgol, gynnwys llunio ac adolygu Cynllun Pontio.
- Mae’r Cynllun Pontio yn dod â’r holl wybodaeth angenrheidiol ynghyd i gynllunio ar gyfer pan fydd person ifanc yn symud i fywyd oedolyn.
- Dylai Cynlluniau Pontio gynnwys nid yn unig trefniadau ôl-ysgol, ond dylen nhw hefyd gynllunio ar gyfer help parhaus yn yr ysgol fel a nodwyd yn y datganiad anghenion addysgol arbennig.
- Rhaid i Gyrfa Cymru gymryd rhan yn y broses o lunio’r Cynllun Pontio, a dylai rhieni ac asiantaethau eraill sydd â rôl o bwys ym mywyd y person ifanc wedi iddo adael yr ysgol, e.e. Pobl Broffesiynol ym maes Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gymryd rhan hefyd.