Gwybodaeth » Addysg » Anghenion Addysgol Arbennig » Cefnogaeth yn y coleg
- Bydd gan y rhan fwyaf o golegau gyrsiau sydd wedi’u cynllunio i helpu pobl:
- I wella’u mathemateg a’u Saesneg
- I fod yn fwy hyderus
- I roi cynnig ar amrywiaeth o gyrsiau ymarferol i ddod i wybod beth fydden nhw’n hoffi’i wneud
- Yn aml, bydd gan y cyrsiau hyn deitlau megis Paratoi Galwedigaethol.
- Os ydych chi eisoes yn gwybod pa gwrs rydych chi eisiau’i ddilyn ond bod angen cefnogaeth arnoch chi, gall y coleg wneud cais am arian i roi’r gefnogaeth ar waith. Gall y math o gefnogaeth allai fod ar gael gynnwys:
- Rhywun i gymryd nodiadau ar eich rhan
- Rhywun i ddarllen gwybodaeth ar eich rhan
- Help i drefnu eich gwaith
- Gliniadur
- Help wrth fwyta
- Help i fynd o gwmpas y coleg
- Byddai’n syniad da siarad â’ch cynghorydd gyrfa am y gefnogaeth allech chi ei gael yn y coleg.