Croeso i TOWIP! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg » Anghenion Addysgol Arbennig

Mae’r ymadrodd ‘anghenion addysgol arbennig’ (AAA) yn cyfeirio at blant a phobl ifanc sydd ag anawsterau neu anableddau dysgu sy’n ei gwneud yn fwy anodd iddynt ddysgu na’r rhan fwyaf o blant o’r un oed. Gallai hyn hefyd olygu bod ag anabledd corfforol a allai wneud defnyddio rhai o gyfleusterau addysgol yr ysgol yn amhosibl .

Disgrifir gwahanol fathau o anghenion addysgol arbennig gyda gwahanol lefelau h.y. anawsterau dysgu cymedrol, difrifol, penodol, lluosog neu ddirfawr. Weithiau ystyrir bod dyslecsia yn angen addysgol arbennig oherwydd ei fod yn achosi i’r person ifanc fod ag anhawster dysgu.

Mae enghreifftiau eraill o anghenion addysgol arbennig yn cynnwys pobl ifanc gydag amhariad ar eu clyw neu eu golwg, anawsterau gyda lleferydd neu iaith neu anabledd corfforol. Ceir cyflyrau eraill fel Awtistiaeth, ADHD ac Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol sy’n golygu bod gan bobl ifanc anhawster dysgu ac y bydd ganddynt anghenion addysgol arbennig.

Os oes gennych anghenion addysgol arbennig efallai y bydd arnoch angen cymorth mewn ychydig o feysydd gan gynnwys eich gwaith ysgol, ymwneud â phobl ifanc neu oedolion eraill, eich ymddygiad a’ch gweithgareddau corfforol.

Dylai ysgolion roi’r cymorth ychwanegol i chi naill ai gan eich athrawon, y Cydgysylltydd AAA (y sawl sy’n gyfrifol am gydgysylltu cymorth i blant gydag anghenion addysgol arbennig yn yr ysgol) neu gan arbenigwr o’r tu allan. Ond weithiau mae’n well i chi fynd i ysgol sy’n fwy addas i’ch anghenion chi.

Mae datganiad o anghenion addysgol arbennig (AAA) yn archwiliad manwl a gyflawnir gan nifer o swyddogion proffesiynol a all gynnwys yr ysgol neu’r ymgynghorydd addysg, seicolegydd addysgol, meddyg a gwasanaethau cymdeithasol. Fe’i defnyddir i ddarganfod yn union beth yw eich anghenion addysgol arbennig ac mae’n bwysig i sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth a’r gefnogaeth sy’n angenrheidiol.

Sefydliadau

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50