Beth yw Towip?
Mae hon yn lle i bobl ifanc ym Mhowys mynegi eu barn, adolygiadau a’u creadigrwydd.
Gwasanaeth Gwybodaeth Ieuenctid a Theuluoedd Powys sy’n rheoli’r safle. Ein bwriad yw rhoi’r wybodaeth sydd angen ar bobl ifanc mewn bywyd, o alcohol a bwlio i rhyw a’ch hawliau. Mae hwn yn wasanaeth cyngor a gwybodaeth gyfrinachol ddi-dâl.
Rydym yn ymweld â phob ysgol uwchradd ym Mhowys unwaith bob pythefnos, a nifer o ddigwyddiadau cymunedol drwy gydol y flwyddyn. Ydych chi wedi gweld ein peiriant gwybodaeth arian yn eich ysgol? Os nad ydych, dewch mewn i ddweud Helo!
Os ydych yn chwilio am weithgaredd nos beth am weld beth sy’n digwydd y ein clybiau ieuenctid ym Mhowys - Clicia Yma.
Os ydych am ragor o wybodaeth neu os oes gennych gwestiynau ynglŷn â Gwasanaeth Gwybodaeth Ieuenctid a Theuluoedd Powys cysylltwch â ni ar 0300 111 0234 neu fis@powys.gov.uk

